Y Pwyllgor Deisebau

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth, 13 Mai 2014

 

 

 

Amser:

09.02 - 10.36

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_200000_13_05_2014&t=0&l=cy

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

William Powell (Cadeirydd)

Russell George

Bethan Jenkins

Joyce Watson

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Daniel Thomas, Deisebydd

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Steve George (Clerc)

Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc)

 

 

 

<AI1>

1   Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

 

</AI1>

<AI2>

2   Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

 

Cytunwyd ar y cynnig a bu’r Aelodau’n ystyried materion yn codi o ddeiseb, yn breifat.

 

</AI2>

<AI3>

3   P-04-471 Deddfwriaeth Orfodol i sicrhau bod Diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus

 

Bu’r Pwyllgor yn trafod y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 29 Ebrill a chytunwyd i baratoi adroddiad ar y ddeiseb fel y gall y Cynulliad drafod y materion a godwyd yn llawnach yn y Cyfarfod Llawn.

 

 

</AI3>

<AI4>

4.1     P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·                     Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg eto i ofyn am ymateb i ohebiaeth gynharach; ac

·                      at y Gweinidog i ofyn am ei farn ynglŷn â sylwadau pellach y deisebydd ac i dynnu ei sylw at fethiant Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i ymateb i ohebiaeth.

</AI4>

<AI5>

4.2     P-04-527 Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan ynglŷn â’i brosesau ar gyfer gwerthuso cyffuriau canser o’r math y mae’r ddeiseb yn pryderu ynglŷn â hwy;

·         gofyn am ragor o sylwadau gan y deisebydd a holi a yw datganiad ysgrifenedig y Gweinidog yn bodloni unrhyw rai o’i bryderon; a 

·         gofyn am ymateb gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg gan nad yw wedi ymateb i lythyr gwreiddiol y Pwyllgor eto.

</AI5>

<AI6>

4.3     P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog ym mis Mehefin ar ôl i’r Grŵp Gweithredu Metro gyhoeddi’i gynigion mewn perthynas â Metro De-ddwyrain Cymru.

 

</AI6>

<AI7>

4.4     P-04-506 Pasys bws am ddim / teithio rhatach i’r rhai sy’n hawlio budd-daliadau, myfyrwyr a phobl o dan 18 oed

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb gan nad yw’n debygol y bydd unrhyw newid ym mholisi’r Llywodraeth.

 

</AI7>

<AI8>

4.5     P-04-510 Ymchwiliad Cyhoeddus i achos Breckman yn Sir Gaerfyrddin

 

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth gyfreithiol ynglŷn â’r ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

</AI8>

<AI9>

5   Deisebau newydd

 

</AI9>

<AI10>

5.1     P-04-550 Pwerau Cynllunio

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn ei farn am y ddeiseb, yn enwedig mewn perthynas ag a fydd y Bil Cynllunio arfaethedig yn cynnwys unrhyw gynigion i fynd i’r afael â’r mater sy’n pryderu’r deisebwyr; ac

·         anfon copi o’r llythyr at y Gweinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a Vaughan Gething.

 </AI10>

<AI11>

5.2     P-04-551 Dysgu Cymorth Cyntaf Sylfaenol Mewn Ysgolion

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn ei farn am y ddeiseb, gan gofio’r ystyriaeth a roddwyd i ddeiseb flaenorol a drafodwyd gan y Pwyllgor ynglŷn â mater tebyg.

 

</AI11>

<AI12>

5.3     P-04-552 Diogelu Plant

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; a

·         Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 

i ofyn eu barn am y ddeiseb.

 

</AI12>

<AI13>

5.4     P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; ac

·         OFcom

i ofyn eu barn am y ddeiseb ac, yn achos OFCOM, i weld a oeddent yn ymwybodol o unrhyw waith ymchwil diweddar i’r mater hwn.

 

</AI13>

<AI14>

5.5     P-04-554 Polisi swyddogol gan Lywodraeth Cymru sy’n gwahardd sefydliadau hyfforddi nad ydynt yn dryloyw rhag gweithio mewn cyrff cyhoeddus.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd i ofyn am eglurhad pellach ynghylch unrhyw bryderon penodol sy’n gefndir i’r ddeiseb. 

 

</AI14>

<AI15>

5.6     P-04-555 Rhwystrwch y cynlluniau anfoesol a llym arfaethedig i’w gwneud yn orfodol i ficrosglodynnu cŵn.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

ysgrifennu at y deisebydd i ofyn am eglurhad pellach ynghylch unrhyw bryderon penodol sy’n gefndir i’r ddeiseb.   

 

</AI15>

<AI16>

5.7     P-04-556 Na i gau Cyffordd 41

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

ysgrifennu at:

 

Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn ei barn am y ddeiseb ac i ofyn am ragor o wybodaeth ynglŷn â pham bod y gyffordd arbennig hon wedi’i nodi ar gyfer ei chau o bosibl; a

Chyngor Castell-nedd Port Talbot i ofyn eu barn am y mater.

 

</AI16>

<AI17>

6   Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

 

</AI17>

<AI18>

6.1     P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

</AI18>

<AI19>

6.2     P-04-439 Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a nodwyd fod Coed Cadw bellach yn aelod o’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen a chytunwyd i aros i’r Gweinidog roi gwybod i’r Pwyllgor am ganfyddiadau’r Grŵp.

 

</AI19>

<AI20>

6.3     P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac o ystyried llwyth gwaith y Pwyllgor ac ymrwymiadau eraill yr Aelodau, cytunwyd i wrthod y gwahoddiad. Wrth wneud hynny, penderfynwyd rhoi’r gwahoddiad i’r Gweinidog a gofyn iddo ef neu ei swyddogion ystyried y gwahoddiad fel rhan o’u hadolygiad o’r ddeddfwriaeth yn y maes hwn.

 

</AI20>

<AI21>

6.4     P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at ColegauCymru i ofyn am wybodaeth ynghylch pa goleg oedd heb ymrwymo eto i’r contract Cymru Gyfan ar gyfer darlithwyr Addysg Bellach.

 

</AI21>

<AI22>

6.5     P-04-518 Ciniawau ysgol am ddim yn gyffredinol

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y Gweinidog yn wyneb ymateb y deisebydd.

 

</AI22>

<AI23>

6.6     P-04-533 Cynllunio Amgylcheddol ar gyfer Safleoedd Tyrbinau Gwynt ar Raddfa Fach

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ganiatau rhagor o amser i’r deisebwyr baratoi ymateb manylach i lythyr y Gweinidog, yn ôl eu cais.

 

</AI23>

<AI24>

6.7     P-04-534 Ymgyrch i ddiogelu YSBYTY ABERTEIFI

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i holi am farn y deisebwyr ar yr ohebiaeth a ddaeth i law.

 

</AI24>

<AI25>

6.8     P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn am ymateb brys gan Gyngor Dinas Caerdydd i gais y Pwyllgor am wybodaeth ac am ymweliad â’r adeilad.

 

</AI25>

<AI26>

7   Sesiwn Dystiolaeth - Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru

Bu’r tyst yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

</AI26>

<AI27>

7.1     P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd

 

</AI27>

<AI28>

7.2     P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo

 

</AI28>

<AI29>

7.3     P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru

 

</AI29>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>